Site icon Media outlet for Broadcasting & Journalism

Llwyddiant Gŵyl Cymraeg Newydd – Gŵyl Fel ‘na Mai!

Cynhaliwyd gŵyl Cymraeg newydd sbon yng Nghrymych dros y penwythnos.

Gyda pherfformiadau wrth Dafydd Iwan, Los Blancos, Mei Gwynedd a Bwncath, gwelodd y pentref torf anferthol prynhawn Sadwrn. 

Dywedodd Manon John, oedd ar y pwyllgor trefnu: “Odd hi’n brofiad anhygoel, a’n anrhydedd bod yn rhan o’r trefniadau. Wedd hi’n amhosib peido gwenu!”

Trefnwyd gynnal y digwyddiad ym mis Mai 2020, ond yn amlwg achosodd cofid-19 trafferthion i’r cynlluniau. 

“Roedd hi’n drueni mowr”, meddai Manon: “Ond mae’n felysach byth gweld yr holl beth yn dod at ei gilydd o’r diwedd, wedi dwy flynedd o drefnu.”

Gwnaeth Erin Byrne, artist 21 mlwydd oed o Grymych, ei hymddangosiad cyntaf mewn gŵyl gerddorol. 

“Dwi eriod wedi profi unrhyw beth tebyg, dwi dal i deimlo’r ‘buzz’ nawr deuddydd wedyn. Roedd y gefnogaeth yn anhygoel, gallen i heb ofyn am gynulleidfa well. S’dim byd yn cymharu â bod getre!”

Gwelodd yr ŵyl aduniad Bois Bach ar lwyfan Y Frenni.

Llun gan Guto Vaughan

Wedi ugain o flynyddoedd, roedd Bili, Wili, Jim a Jon yn ôl.

Daeth y grŵp â blas o’r Nadolig gyda’i hit poblogaidd, Twrci Tew, a chloi gyda’r clasur, Torth Fach Frown. 

“Wen nhw’n sbesial”, dywedodd Erin, ag oedd yn gwisgo crys-t Bois Bach o’r flwyddyn 2000: “Ges i deimlad o nostalgia wrth wylio nhw, er falle o’dd bach llai o egni ar y llwyfan cymharu ag ugain mlynedd yn ôl. Ond roedd hi’n ffordd fythgofiadwy o gychwyn â’r hwyl!”

Pan darodd y cloc chwarter wedi chwech, cyrhaeddodd Dafydd Iwan i’r llwyfan. Diddanodd y dorf ar lwyfan Foel Drigarn, a chyhoeddi y byddai nôl y flwyddyn nesaf. 

Llun gan Guto Vaughan

Eglurodd Manon: “Dwi’n edrych ymlaen at ddachre trefnu ar gyfer 2023 yn barod. Mae gan bawb gwerthfawrogiad newydd at ddigwyddiadau tebyg ers y clo mawr, mae’n hyfryd gallu dathlu bywyd unwaith eto.” 

Gyda’r trefnwyr, artistiaid, a’r mynychwyr mewn hwyliau da, mae’n sâff dweud bydd Gŵyl Fel ‘na Mai ar y gorwel i’w chynnal mis Mai 2023. Blwyddyn nesaf amdani! 

Exit mobile version